"lle hyfryd iawn i aros, yn brydferth ac yn hen ond eto'n foethus ac yn gyffyrddus"

2 Penrhiw Cottages, Abercych, Sir Benfro SA37 0HB Mae 2 Penrhiw yn fwthyn clyd, llawn cymeriad, wedi ei leoli yn hyfrydwch Cwm Cych, Sir Benfro ar y ffin â siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Ar ôl sefyll yn wag am ymron i 40 mlynedd cyn ei adfer yn ofalus gan y perchennog presennol Stirling Steward, mae naws yr hen ffordd o fyw i’w brofi yma o hyd ynghyd â digon o foethau cyfoes i wneud eich arhosiad yma’n un pur gyfforddus.

Fe allwch chi noswylio’n gysurus o flaen tân y parlwr, dreulio bore hyfryd o haf ar y teras â’i olygfa o’r cwm neu fwynhau un o nifer o atyniadau lleol.

Darllenwch fwy am hanes y tŷ.

Prices

I drefnu arhosiad yn 2 Penrhiw ewch i'r calendr (isod). Symudwch y cyrchwr dros eich dyddiad i weld os ydi'r bwthyn ar gael ac i weld y pris. Os gliciwch chi ar y dyddiad mi fyddwch chi'n mynd i'n tudalen ni ar wefan Under the Thatch - yno, arlein, mae trefnu a thalu am eich arhosiad. I holi ynglŷn â phreswyliadau artistiaid defnyddiwch y ffurflen gysylltu. Fe gysylltwn ni'n ôl cyn gynted â bo modd. [...]

Darllenwch fwy am Adborth Ymwelwyr