Adfer 2 Penrhiw

Hooks by the back door. Photo by Ben Stammers

Ym mis Medi 2007 fe brynodd Stirling y bwthyn gan y teulu a oedd wedi byw ynddo ers ymron i ganrif. Roedd Katy, Dewi, Ruth a Mair Jones yn awyddus i werthu’r tŷ i rywun a fyddai’n parchu naws y lle. Roedd Stirling a’i gymar Simon Whitehead yn ‘nabod Ieuan, gŵr Katy, fel un a ymwelai’n gyson â chartref ei blentyndod. Fel cymdogion mae Stirling a Simon wrth eu bodd yn cael y cyfle i adfer 2 Penrhiw a dod â bywyd iddo unwaith eto.

Mae llawer o bobl wedi bod ynglŷn â’r gwaith o adfer a ‘moderneiddio’ 2 Penrhiw. I weld lluniau Ben Stammers o’r bwthyn pan oedd o’n wag cyn dechrau’r gwaith, ewch i dudalen ‘Hanes 2 Penrhiw’.

Mae’r bwthyn wedi ei ail-weirio drwyddo a’i blymio o’r newydd (y cyfan oedd yma gynt oedd tap dŵr oer wrth sinc y gegin!) Lle nad oedd modd cadw’r hen blastar calch fe’i adnewyddiwyd, ac fe ddefnyddiwyd clai, paent mwynau a chalch naturiol ym mhob achos. Mae ein sylw i’r agwedd amgylcheddol a chynaladwyedd i’w weld yn ein dewis o wlan Cymreig i inswleiddio’r to, lle chwech ddarbodus ar ddŵr, y defnydd o goed a gafwyd yn lleol o ffynonellau cynaliadwy, a dwy stôf goed a boiler newydd effeithiol ar gyfer y gwresogi.

The garden after renovation Dyluniwyd yr ardd gan Celine Janz fel prosiect blwyddyn gyntaf ei chwrs Peirianneg Amgylcheddol. Bu efo ni am wythnos ym mis Mawrth 2009 yn gwneud y gwaith sylfaenol ac yn dechrau ar y plannu. Y bwriad ydi creu gardd sy’n hawdd ei chynnal ac ar yr un pryd yn atyniadol i’w hymwelwyr, p’un ai ydi’r rheiny’n bobl, yn anifeiliaid neu’n drychfilod. Planwyd detholiad o berlysiau i’w defnyddio gan ymwelwyr ac mae’r tŷ wedi ei addurno â blodau tymhorol. Yn dilyn cynhaeaf helaeth ein hydref cyntaf mae coed afalau’r berllan, sy’n gynnyrch impio â nifer o wahanol fathau o goeden afal, wedi eu tocio’n sylweddol. Cyn hir bydd yna lwythi unwaith eto o afalau i ymwelwyr eu mwynhau yn ystod yr hydref. Mae yna luniau o’r gwaith ar yr ardd ac o flagur ein gwanwyn cyntaf ar www.2penrhiw.

Roedd rhan fwya’r gwaith adfer wedi ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2008 ac ar gyfer y flwyddyn ganlynol fe fu Stirling a’i gyfaill Alanda Gunn-Wilson yn peintio, yn pwytho ac yn ychwanegu’r manion fanylion olaf i’r tŷ, a hynny mewn pryd i’r agoriad swyddogol ym mis Gorffennaf 2009. Fe fu i Simon wyngalchu tu blaen y bwthyn, gan ychwanegu at ei naws croesawus. Mae o’n deimlad braf cael rhannu’r bwthyn gyda phobl eraill sydd, drwy eu mwynhad o’r lle, yn dod â bywyd newydd iddo.

Mi fydd 2 Penrhiw ar gael drwy’r flwyddyn ar gyfer gwyliau a phreswyliadau artistiaid. Roedd y preswyliad cyntaf, un y Milford Swallows, yn hydref 2008 pan oedd gwaith adfer y bwthyn yn dal ar ei hanner. Am fwy o wybodaeth a lluniau ewch i wefan Ointment – www.ointment.org.uk.

The garden after renovation

The garden after renovation

Pre renovation photo of the bathroom by Ben Stammers

Pre renovation photo of the bathroom by Ben Stammers

Flagstone flooring in the kitchen. Photo by Ben Stammers

Flagstone flooring in the kitchen. Photo by Ben Stammers

Pre renovation photo by Ben Stammers

Pre renovation photo by Ben Stammers

Paint work and colour scheme prerenovation. Photo by Ben Stammers

Paint work and colour scheme prerenovation. Photo by Ben Stammers

View into the garden. Photo by Ben Stammers

View into the garden. Photo by Ben Stammers

Pre renovation bathroom tap. Photo by Ben Stammers

Pre renovation bathroom tap. Photo by Ben Stammers

Sunset. Photo by Ben Stammers

Sunset. Photo by Ben Stammers

Photo of the bathroom by Ben Stammers

Photo of the bathroom by Ben Stammers

Bathroom mirror. Photo by Ben Stammers

Bathroom mirror. Photo by Ben Stammers

Hooks by the back door. Photo by Ben Stammers

Hooks by the back door. Photo by Ben Stammers

Pre renovation bathroom/kitchen. Photo by Ben Stammers

Pre renovation bathroom/kitchen. Photo by Ben Stammers

Luck heather. Photo by Ben Stammers

Luck heather. Photo by Ben Stammers

Pre renovation electricals. Photo Ben Stammers

Pre renovation electricals. Photo Ben Stammers

Pre renovation bathroom. Photo by Ben Stammers

Pre renovation bathroom. Photo by Ben Stammers

Garden renovation in progress, March 2009

Garden renovation in progress, March 2009

Garden during renovation

Garden during renovation

Renovated garden - pre planting

Renovated garden – pre planting

Wild flower planting

Wild flower planting

View of 2 Penrhiw through the apple tree

View of 2 Penrhiw through the apple tree

Wild flowers in the garden.

Wild flowers in the garden.