Gwybodaeth Leol

Looking uphill towards 2 PenrhiwMae sawl tro y gellwch ei gymryd ar droed o’r bwthyn – ar hyd yr afon neu i goedwig Ystad Clynfyw lle mae yna lwybr cerfluniadau a thŷ crwn. Mae un tro o oddeutu dwy awr o hyd yn eich cymryd ar hyd ffyrdd cefn gwlad a thrwy gaeau Clynfyw at bistyll hudolus y Ffynonne. Mi fydd trochiad sydyn yn y pwll wrth waelod y pistyll yn codi gwrid ar eich croen am ddyddiau!

Ar lannau’r Teifi, ger Cilgerran yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi, mae Canolfan Natur Cymru. Yno fe gewch chi olygfeydd panoramig o’r Ganolfan Ymwelwyr (a Chaffi) Tŷ Gwydr, mae yna le chwarae gyda sleidiau ac offer o bob math ac adeileddau helyg byw i chwarae o’u cwmpas. Mae modd hefyd i chi fynd ar daith canŵ i fyny’r afon cyn belled â Chastell Cilgerran; i wneud hynny, cysylltwch â Heritage Canoes sy’n gweithio o’r Ganolfan.

Ewch i weld y llaethdy lle caiff yr enwog Gaws Cenarth ei wneud a phrofwch rhai o’r cosiau blasus yno. Mae yna gaffi yno hefyd, Caffi Cwtch, sydd ar agor yn ystod misoedd yr haf. Dydi o’n ddim ond 5 munud i ffwrdd mewn car neu’n dro hyfryd drwy’r wlad ar droed.

Dim ond siwrnai fer mewn car sydd ei angen i gyrraedd tref farchnad Castell Newydd Emlyn. Yno fe gewch chi ffrwythau a llysiau ffres, rhai lleol ac organig, pysgod ffres, delicatessen, hynafolion a bwyty a thecawe rhagorol Indiaidd. Mae adfeilion y castell, y dolydd o’u cwmpas a glannau’r afon yno’n llefydd braf i hamddena.

The beach at MwntBydd taith ddymunol 9 milltir drwy harddwch dyffryn Teifi, heibio Pwll y Tair Sir, yn mynd â chi i dref lan môr Aberteifi. Mae bae Ceredigion yn enwog am ei thraethau Baner Las a theulu mawr o ddolffiniaid trwyn potel. Ewch i Mwnt, un o draethau gorau gorllewin Cymru, a mwynhewch y traeth cysgodol, ymweld â’r eglwys fach hynafol, a chyfle i weld y dolffiniaid a’r llamhidyddion gwyllt. Mae morloi a morloi bach i’w gweld hefyd yn y ‘Cardigan Island Coastal Farm Park‘. Yn Aberteifi ei hun mae yna ddewis da o siopau bychain annibynnol – siop bwydydd cyflawn dda, siop fferins traddodiadol ar y stryd fawr, nifer o gaffis a bwyty Indiaidd ar gwch.

Yn Aberteifi hefyd mae Theatr Mwldan. Mae hon yn Ganolfan Gelfyddydau sy’n cynnig gweithgareddau drwy’r flwyddyn ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth a ffilm byd. Mae ei harddangosfeydd celf yn rhad ac am ddim ac ar agor yn ddyddiol. Mae adeilad y Theatr Byd Bychan, i fyny’r allt o Theatr Mwldan, yn werth ymweld ag o fel enghraifft o bensaernïaeth amgylcheddol mewn adeilad cyhoeddus. Yno hefyd fe gewch chi weithdai crefft a pherfformio i blant ac oedolion sydd ag ymrwymiad i drawsnewid unigolion a chymunedau drwy weithgareddau celfyddydol ac mae’r rhaglen perfformiadau’n adlewyrchu diddordeb y ganolfan mewn newid gwleidyddol ac amgycheddol.

Mae’r Teifi’n un o afonydd eog gorau Ynysoedd Prydain ac yn ystod tymor y silio mae’r eog i’w gweld yn neidio i fyny’r rhaeadrau yng Nghenarth. Mae’r hawl i bysgota’r rhan fwyaf o 24 milltir glannau’r Teifi yng ngofal Cymdeithas Brithyll y Teifi – cysylltwch â nhw ar www.teifitrout.com. Os am olwg ehangach ar beth sydd ar gael o ran pysgota afon a môr ewch i www.fishing.visitwales.com.